sitemap | English
Rydych yma : Hafan > Amdanon Ni > Portffolio

Portffolio Gwefan

pixel foundry  web site by CyberiumPixel Foundry: Mae Cyberium wedi ail-godio’r safle hwn sydd ar gyfer gwneuthurwyr rhaglenni dogfen i’r teledu i’w wneud yn fwy hygyrch, wedi’i droi yn CMS ac ychwanegu adran llwytho i lawr a llwytho i fyny, gwasanaeth tanysgrifiad fideo, tystebau treigl ar y dudalen flaen ac ardal gleient a warchodir gan gyfrinair ar gyfer cydweithio ar olygu sy’n digwydd o bell.
> www.pixelfoundry.co.uk

tropical forest honey  web site by CyberiumTropical Forest: Cyflenwr blaenllaw mêl organig masnach deg. Mae’r wefan CMS hon yn cynnwys cronfeydd data o gynnyrch a chyflenwyr, gan gynnwys y gallu i weld, trwy gyfrwng Googlemap a fewnfudir i’r safle, lleoliadau’r pentrefi yn Zambia lle cesglir mêl i’ch potyn arbennig chi yn ogystal ag enwau’r casglwyr.
> www.tropicalforest.com

Forest Stewardship Council web site by CyberiumForest Stewardship Council: yn defnyddio System Rheoli Cynnwys (CMS), gan gynnwys cronfa ddata o fannau gwerthu a gymeradwyir; cronfa ddata chwiliadwy o gynnyrch a gymeradwyir gan FSC. Mae ‘News feed-teasers’ yn cael eu creu’n awtomatig a’u gosod i lawr yr ochr, neu’n cael eu haddasu; dewislen is-lywio aml-ddalen a briwsion. Safonau’n cydymffurfio â XHTML a CSS; Dogfennau a ychwanegir yn awtomatig i’r Dudalen Lawrlwytho Dogfen. [gwaith gan ein rhaglennydd, Harry Love]
> www.fsc-uk.org

Tourism Partnership Mid Wales web site by CyberiumTourism Partnership Mid Wales: Gwefan gorfforedig yn cynnwys llawer o wybodaeth am y tîm a’r prosiectau y tu ôl i ddiwydiant twristiaeth Canolbarth Cymru, sy’n cael ei diweddaru gan y tîm ei hun.
> www.tpmw.co.uk

Annie Phillips, artist's  web site by CyberiumAnnie Phillips: Gwefan CMS i arlunydd yn defnyddio nifer o orielau templedol ar wahân, system taflen newyddion, anfon e-gerdyn a ffurflen gofrestru i ddylunwyr sy’n defnyddio’i gwaith wedi’i chysylltu i gronfa ddata ar gyfer y taflenni newyddion.
> www.anniephillips.co.uk

Creu Cymru web site by CyberiumCreu Cymru: Gwefan i’r asiantaeth hon sydd wedi’i lleoli yn Aberystwyth. Mae’r wefan yn gweithio fel  ‘cwmni trefnu priodasau’ i gwmnïau twristiaeth a lleoliadau. Gall ‘Lleoliadau’ chwilio am berfformiadau a llogi tocynnau, a gall cwmnïau twristiaeth bostio manylion am deithiau i ddod. Mae’n ymffrostio yn ei system reoli cynnwys dwyieithog. Mae yno adran fawr breifat ar gyfer rhannu gwybodaeth, dyddiadur, a monitro byrddau gweinyddol.
> www.creucymru.co.uk

 

The Happy Bin website by CyberiumThe Happy Bin: Defnyddir y wefan hon gan ysgolion sy’n cymryd rhan mewn prosiect sy’n cael ei threfnu gan ‘Green Egg’, ymgynghoriaeth addysg amgylcheddol, i helpu ysgolion cynradd i leihau’u lefelau sbwriel, ac i addysgu plant am ailgylchu a chompostio. Mae’r gyfres wych a llwyddiannus hon o brosiectau yn dibynnu ar y wefan sy’n galluogi plant ac athrawon i gofnodi pwysau’u sbwriel bob wythnos a chynllunio i’w leihau. Mae’r safle’n creu graffiau o’r data’n awtomatig trwy ddefnyddio javascript, ac yn ymffrostio mewn blog fel y gall pob ysgol ysgrifennu am yr hyn mae’n ei wneud a llwytho lluniau i fyny. Mae chwe phrosiect mewn gwahanol ardaloedd wedi bod hyd yn hyn ac mae argraffiad gwahanol o’r un safle’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pob prosiect. Rydyn ni wedi cynhyrchu safle tebyg i brosiect ysgolion masnach deg yng Ngheredigion, a safle i ‘Vagabondi Puppets’ sy’n cefnogi’r Bin Hapus trwy deithio gyda sioe bypedau o gwmpas ysgolion.  
> happybin.org.uk


Plant-i web site by CyberiumPlant-i: Mae’r cwmni hwn yn arbenigo mewn tracio cerbydau gan arddangos ar y wefan y gallu i dracio cerbydau wedi’i gosod mewn amser real. Mae’n cynnwys gwasanaeth bwydo newyddion, astudiaethau achosion, tystebau, ffurflen gysylltu a mwy. Safle CMS arall.
> www.plant-i.net

People Business Results web site by CyberiumPeople Business Results: gwefan gorfforedig i People Business Results, cwmni hyfforddi cenedlaethol gyda chleientau ‘blue chip’. I gynnwys system rheoli cynnwys, bod yn hollol hygyrch, bod â fforymau a nodweddion eraill i alluogi hyfforddwyr i reoli’u gwaith a’u cleientiaid ym mhob cwr o’r wlad.
> www.peoplebusinessresults.com
 

Mynnwch archwiliad cychwynnol am ddim ar gyfer eich tudalen hafan!

Archwilio safleoedd cyfan o £100. Galwch 01970 832993 neu e-bostiwch ni nawr!

Tystebau

Cyberium have been consistently patient and supportive, including during training sessions for our staff and volunteers.

Andy Rowland, Manager, Ecodyfi