Cyberium
calon
 
 
this page
 
 
Saesneg
*

gwefannau i bawb

cragenau

Waeth beth fo eich gallu na'ch offer technegol, fe ddylech allu cael gafael ar unrhyw wefan bob amser.

Amcangyfrifir bod 8 miliwn o bobl anabl yn y DU yn unig. Buasai gallu defnyddio'r We yn agor pob math o bosibiliadau iddynt ac yn gwella ansawdd eu bywydau, ond nid heb gryn rwystredigaeth oherwydd nad yw dylunwyr rhaglenni'r We yn deall sut y mae'r anabl yn defnyddio cyfrifiaduron a'r We.

Beth yn union mae hyn yn ei olygu?

Mae'n golygu:

  • Bod y rhai a nam ar eu golwg yn dal i allu darllen y wefan a bod y rhai sy'n defnyddio darllenydd sgrin yn gallu ‘clywed' eich gwefan

  • Gall y rhai dyslecsig ei ddarllen fel y gall y rhai sydd yn ddall i liwiau

  • Gall y rhai sy'n methu a defnyddio llygoden a/neu yr allweddell lwyddo i gael pen ffordd ar y wefan

  • Nid yw'n cau allan y rhai sydd heb y cyfleusterau neu sydd ddim yn sylweddoli gwerth plygio i mewn

  • Mae'n hawdd i'w ddarganfod

  • Mae'n hawdd a chyflym i'w lwytho i lawr i bawb ymhobman

  • Mae'n gweithredu ym mhob porwr a llwyfan

  • Mae wedi ei gynllunio'n dda a chyda gofal.

Mae safle sy'n gallu gwneud yr holl bethau hyn yn sicr o gyrraedd llawer o bobl ac mae'r bobl hynny yn fwy tebygol o'i ddefnyddio a dychwelyd ato. Y dyddiau hyn, mae'r defnyddiau clywedol ar y We, gan gynnwys fideo ac animeiddiad, yn cynnwys arweddion sy'n galluogi, er enghraifft, y rhai sydd a golwg a chlyw gwan werthfawrogi ei gynnwys.

Arferai'r dylunwyr feddwl bod creu safle hygyrch yn golygu safle diflas. Bellach nid yw hyn yn wir, fel y dangosodd gwaith diweddar gan y BBC, er enghraifft. Fodd bynnag, yn aml, gall gwefan hygyrch berfformio'n well i eraill a sgorio'n uwch gyda pheiriannau chwilio.

Yn olaf, bydd y ddeddfwriaeth newydd sy'n cael ei datblygu o dan y Ddeddf Gwahaniaethu Anabledd yn gwneud cyhoeddwyr gwefannau os nad ydynt yn cydymffurfio, yn agored i'w herlyn, yn arbennig os ydynt wedi eu noddi gan arian cyhoeddus.

Rydym yn ddiweddar wedi gweithio gyda Sianel 4 i ddatblygu a gweithredu eu polisi o dan faniffesto Rhwydwaith Darlledwyr ar gyfer Anabledd. Rydym hefyd wedi bod yn cynorthwyo adrannau'r llywodraeth i gynhyrchu gwefannau hygyrch a chynhwysol.

Dychwelwch i dop y ddalen

Gweler ein dalen adnoddau gynhwysfawr(English only)

 

 

Dychwelwch i dop y ddallen