Cyberium
calon
 
 
this page
 
 
Saesneg
*

Tuag at fyd gwell


blodeuynau

Ni fedrwn barhau fel hyn.

Pam? Oherwydd ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio yr hyn sy'n cyfateb i ddwy blaned a hanner maint y ddaear i'n cadw ni i fynd, tra bod hanner poblogaeth ein planed brydferth ni yn newynu.

Mewn geiriau eraill, rydym yn morgeisio ein dyfodol ac yn aberthu nid yn unig boblogaethau ein pobl ond hefyd rywogaethau ac ecosystemau, er mwyn cynnal ar y cledrau system bresennol y gwledydd cefnog. Yn hwyr neu'n hwyrach, mae'r tren yn mynd i fynd i'r wal.

Hyd yn oed yma, yn y gwledydd cyfoethog, anghyfartal iawn yw dosbarthiad adnoddau, ac mae hyn yn arwain at droseddau ac anniddigrwydd cymdeithasol, biliau iechyd mwy a dirywiad mewn ansawdd bywyd.

Mae ffordd well ar gael.

Datblygiad cynaliadwy yw datblygiad sy'n cyfarfod a'n anghenion presennol heb gyfaddawdu ar oroesiad cenedlaethau'r dyfodol.

Mae iddo dri pilar: yr amgylchedd, cymdeithas a'r economi.

Mae'n hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder drwy roddi grym i bobl a synnwyr o ddinasyddiaeth fyd-eang, gymaint ag y mae yn hyrwyddo gwarchod ein hamgylchedd ni ac yn hybu system o economeg sy'n cynnwys cost a budd cymdeithasol ac amgylcheddol o fewn mantolen elw a cholled.

Ni wyddom beth ddaw o'r dyfodol, ond y dyfodol gorau yw un mwy cynaliadwy.

Nid yw cynaladwyedd yn bwnc i'w neilltuo oddi wrth eraill. Mae fel gwisgo pâr o sbectols - ac unwaith y byddant ar eich trwyn byddwch yn edrych ar y byd drwy arlliw ‘gwyrdd'. Dull arall o ddweud bod modd trafod pob agwedd o'n bywydau mewn ffordd sy'n gydnaws a datblygiad cynaliadwy, neu beidio.

Felly beth a all busnesau a chymdeithasau ei wneud?

  • Gall cwmniau ddarparu a chynnig archwiliadau cymdeithasol ac amgylcheddol fel ffordd o gyrraedd mantais gystadleuol.

  • Gallant arbed arian drwy leihau llygredd, y defnydd o wastraff ac egni, a thrwy newid i drydan adnewyddadwy.

  • Gallant annog eu gweithwyr i deithio i waith mewn dull llai llygredig.

  • Gallant wneud byd o wahaniaeth drwy gael eu hadnoddau a'u cynnyrch o ffynonellau cynaliadwy a lleol a thrwy gyflenwyr Masnach Deg.

  • Gallant drin eu gweithwyr a'u budd-ddeiliaid yn deg a chyfartal.

  • Gallant wella lles eu cymuned.

  • Gallant wneud hyn i gyd - ac eto wneud elw.

Nid yn unig mae yma deimlad braf o wneud daioni, yn wir, erbyn hyn, fe geir miloedd o enghreifftiau o sut y mae'r math hwn o ymddygiad yn creu swyddi ac incwm. Wrth gwrs, mae deddfwriaeth yn angenrheidiol weithiau - ond ceir digon i ddenu yn ogystal a chosbi.

Mae gan Cyberium gronfa anferth o ddefnyddiau ar y pwnc hwn. Fe welwch enghreifftiau yn ein hadran mewnwelediad/'insight', a rhai ar ein tudalen ‘cyswllt gwe'. Byddwn yn ychwanegu erthygl newydd a chysylltiadau newydd bob mis - cofiwch ailymweld a ni.

Gallwn gynnig cymorth i unrhyw gymdeithas a chwmni sydd am lasu eu gweithredoedd, yn cynnwys marchnata ac archwilio. Dowch atom ni am eich cyngor cyntaf.

Gallwn hefyd ddarparu cynnwys thematig ar gyfer gwefannau, llyfrau, cylchgronau ac adnoddau addysgol.

See our comprehensive page of resources (in English)

Dychwelwch i dop y ddallen